Trawsgrifiad o'r animeiddiad Cynnwys rhyngweithiol y gallwch ei ddefnyddio i archwilio canlyniadau'r cyfrifiad
Llefarydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol:
Cawsom ymateb gwych i Gyfrifiad 2021 sy'n helpu i lywio penderfyniadau pwysig am wasanaethau cyhoeddus.
Gydag adnoddau data newydd Cyfrifiad 2021, gallwch ddysgu gwybodaeth ddiddorol fel:
Pa ddiwydiant sydd â'r ganran uchaf o weithwyr ledled Cymru a Lloegr?
Rydym yn dod â gwybodaeth o'r cyfrifiad atoch mewn ffyrdd arloesol a chyffrous.
Gan gynnwys adnoddau esboniadol ac archwiliadol, fel mapiau, erthyglau a mwy.
Gallwch ddysgu mwy am y rhain ac adnoddau eraill ar wefan y cyfrifiad.
Mae dysgu am eich cymuned yn haws nag erioed.