Trawsgrifiad o'r fideo animeiddiedig Creu set ddata arbennig
Yn cyflwyno adnodd creu set ddata arbennig Cyfrifiad 2021.
Crëwch filiynau o gyfuniadau o ganlyniadau Cyfrifiad 2021 i weddu i'ch anghenion.
Gan gynnwys data ar y boblogaeth, crefydd, gwlad enedigol, tai, cyflogaeth, addysg a mwy.
Crëwch set ddata arbennig sy'n casglu’r data sydd o bwys i chi mewn un man.
Dewiswch "Creu set ddata arbennig" i ddechrau o'r dechrau neu "Cael gafael ar ddata'r cyfrifiad" i ddechrau gyda set ddata sydd eisoes yn bodoli.
Gallwch addasu'r math o ardal a'r cwmpas.
Yna, ychwanegwch newidynnau y mae gennych ddiddordeb ynddynt a dewiswch faint o gategorïau yr hoffech eu cael.
Mae'r data yn yr adnodd "Creu set ddata arbennig" yn ddiogel, felly ni allwch adnabod unrhyw un yn bersonol.
Mae'n bosibl felly na fydd y setiau data yn cynnwys cymaint o fanylion ag y gallai fod eu hangen arnoch...
…felly byddwn yn awgrymu ffyrdd o wella eich canlyniadau.
Gallwch lawrlwytho eich data fel taenlen neu gael dolen i'w defnyddio'n ddiweddarach neu i'w rhannu ag eraill.
Cael data. Dim ffwdan.
Archwiliwch hyd yn oed mwy o ddata'r cyfrifiad yn: https://cy.ons.gov.uk/datasets... (opens in a new tab)