Rhaglen adnoddau addysg y cyfrifiad
Mae'r cyfrifiad yn unigryw a dim ond unwaith bob 10 mlynedd y caiff ei gynnal. Felly, yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), roeddem ni am ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf i gymryd rhan. Er mwyn cefnogi'r digwyddiad pwysig hwn, gwnaethom gynnal rhaglenni addysg am ddim ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru a Lloegr yn ystod Cyfrifiad 2021.
Helpodd y rhaglenni hyn i addysgu plant a phobl ifanc am bwysigrwydd y cyfrifiad a'r ffordd y mae'r wybodaeth a gaiff ei chasglu yn helpu i lywio'r gymdeithas rydym yn byw ynddi.
Anfonwch e-bost atom (opens in a new tab) , os bydd gennych unrhyw gwestiynau am ein rhaglenni addysg.
Rhaglen Adnoddau Addysg Gynradd y Cyfrifiad
Rhaglen addysg am ddim i addysgu plant cynradd am y cyfrifiad.
Rhaglen Addysg Uwchradd y Cyfrifiad
Rhaglen addysg am ddim a ddaeth â'r cyfrifiad yn fyw i bobl ifanc rhwng 11 a 18 oed.