Ynglŷn â'r cyfrifiad : Ynglŷn ag Arolwg Cwmpas y Cyfrifiad
Ail arolwg ar wahân y byddwn ni yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn ei gynnal chwe wythnos ar ôl y cyfrifiad yw Arolwg Cwmpas y Cyfrifiad.
Pam rydym ni'n cynnal Arolwg Cwmpas y Cyfrifiad
Rydym ni'n gwneud ein gorau glas i sicrhau ein bod yn cyfrif pawb mewn cyfrifiad. Fodd bynnag, nid oes unrhyw gyfrifiad yn berffaith. Gall golli pobl neu gyfrif rhai fwy nag unwaith.
Er mwyn gwneud yn siŵr bod cyn lleied â phosibl o achosion o golli pobl neu gyfrif pobl fwy nag unwaith, byddwn yn cynnal Arolwg Cwmpas y Cyfrifiad.
Pa gwestiynau y bydd Arolwg Cwmpas y Cyfrifiad yn eu gofyn
Bydd Arolwg Cwmpas y Cyfrifiad yn gofyn cwestiynau tebyg i'r rhai ar holiadur y cyfrifiad, ond bydd llai ohonynt. Os byddwn ni'n dewis eich cod post, bydd un o'n cyfwelwyr yn galw heibio i ofyn y cwestiynau i chi.
Ar gyfer beth y byddwn ni'n defnyddio'r wybodaeth o Arolwg Cwmpas y Cyfrifiad
Byddwn ni'n cymharu cofnodion Arolwg Cwmpas y Cyfrifiad â chofnodion y cyfrifiad. Bydd y canlyniadau a gaiff eu cymharu yn rhoi'r amcangyfrifon poblogaeth mwyaf cywir er mwyn gallu cynllunio ac ariannu gwasanaethau fel trafnidiaeth, addysg a gofal iechyd yn well.