Ynglŷn â'r cyfrifiad : Cyfrifiadau blaenorol yng Nghymru a Lloegr
Mae'r cyfrifiad yn digwydd bob 10 mlynedd ac mae'n rhoi darlun i ni o'r holl bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr. Cynhaliwyd cyfrifiadau ers dros 200 o flynyddoedd.
Mae'r atebion o gyfrifiadau blaenorol yn rhoi darlun manwl i ni o'r boblogaeth ar adeg mewn amser.
O swffragét a oedd yn cuddio mewn cwpwrdd banadl i gofnodion swyddogol cyntaf ethnigrwydd a chrefydd, mae’r cyfrifiad yn dweud wrthym stori ein bywydau ni i gyd.
Dysgwch am Stori'r cyfrifiad (yn Saesneg) (opens in a new tab) ar wefan Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG).
Yma yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), rydym ni'n cadw cofnodion y cyfrifiad yn ddiogel am 100 mlynedd. Dim ond ar ôl hynny y gall cenedlaethau'r dyfodol eu gweld.
Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am ddata cyfrifiadau blaenorol (yn Saesneg) (opens in a new tab) a sut i gael gafael arnynt ar wefan SYG.
Darllenwch grynodeb o Ystadegau Ardaloedd Bach Cyfrifiad 1961 yn yr adran ganlynol. Mae'r manylion llawn ar gael yn Datgelu cyfrifiad: archwilio 50 mlynedd o newid o 1961 (yn Saesneg) (opens in a new tab) ar wefan SYG.
Ystadegau Ardaloedd Bach Cyfrifiad 1961
Rhwng mis Medi 2020 a mis Awst 2021, cynhaliodd 2,800 o wirfoddolwyr 5.5 miliwn o wiriadau er mwyn helpu i droi sganiau o Ystadegau Ardaloedd Bach Cyfrifiad 1961 yn dablau digidol.
Mae'r data digidol hyn yn rhoi darlun manwl o'r ffordd y mae bywyd yng Nghymru a Lloegr wedi newid yn ddramatig rhwng 1961 a 2011.
Gan ddefnyddio mapiau rhyngweithiol, gallwch chi weld sut roedd ardaloedd yn cymharu â'i gilydd a gweld beth sydd wedi newid yn yr hanner can mlynedd hyd at 2011. Mae'r wybodaeth yn cynnwys:
- perchentyaeth
- nifer yr ystafelloedd mewn cartref
- nifer y bobl mewn cartref
- cartrefi â thoiled y tu mewn
- nifer y bobl 16 oed a throsodd oedd wedi ysgaru
Darllenwch grynodeb o ddatganiad gwybodaeth Cyfrifiad 1921 yn yr adran ganlynol. Gallwch chi ddysgu mwy yn Datgelu cyfrifiad: Poblogaeth, gweddwon a phlant amddifad yn 1921 (yn Saesneg) (opens in a new tab) ar wefan SYG.
Cofnodion Cyfrifiad 1921 a'r ffurflenni a gwblhawyd gan gartrefi
Ym mis Ionawr 2022, gwnaeth yr Archifdy Gwladol, gan weithio gyda SYG a Findmypast, alluogi pobl i weld cofnodion Cyfrifiad 1921 ar lein, gan gynnwys ffurflenni a gwblhawyd gan gartrefi.
Mae'r wybodaeth o ddiddordeb arbennig am fod y wlad yn dod dros y Rhyfel Byd Cyntaf a phandemig y ffliw.
Cafodd Cyfrifiad 1921 ei gynnal ar 19 Mehefin y flwyddyn honno a chasglodd fwy o fanylion nag unrhyw gyfrifiad blaenorol. Gofynnodd am y canlynol:
- oedran
- man geni
- galwedigaeth
- preswylfan
- enw deiliaid y cartref
- nifer yr ystafelloedd
- gweithle
- manylion y cyflogwr
- ysgaru fel opsiwn ar gyfer statws priodasol
Cyfrifiad 1921 fydd y tro diwethaf y cyhoeddir ffurflenni cartrefi o'r cyfrifiad am 30 mlynedd. Y rheswm dros hyn yw y gwnaeth tân yn 1942 ddinistrio ffurflenni cartrefi Cyfrifiad 1931. Hefyd, yn sgil yr Ail Ryfel Byd, ni wnaeth Cyfrifiad 1941 gael ei gynnal.
Gallwch chi gael rhagor o fanylion ar dudalen 1921 Census (yn Saesneg) (opens in a new tab) gwefan Findmypast.
Ein nod yw cyhoeddi canlyniadau'r cyfrifiad cyntaf ar ddechrau haf 2022.
Cael gafael ar gofnodion cyfrifiad a data cyfrifiad hanesyddol
Gallwch chi gael gafael ar gofnodion cyfrifiad hanesyddol rhwng 1841 a 1921 drwy'r Archifdy Gwladol. Dysgwch sut i gael gafael ar y cofnodion hyn o'r cyfrifiad (yn Saesneg) (opens in a new tab) ar wefan yr Archifdy Gwladol.
Os hoffech chi gael gafael ar y data ar gyfer y cyfrifiadau hyn, yn hytrach na'r cofnodion eu hunain, gallwn ni eich helpu yn SYG.
Er bod y wybodaeth bersonol sydd ar y ffurflenni yn aros yn gyfrinachol am 100 mlynedd, mae'r data ar gyfer pob cyfrifiad rhwng 1801 a 2011 ar gael ar lein neu mewn adroddiadau wedi'u hargraffu. I ddysgu rhagor am sut y gallwch chi gael gafael ar y data hyn, e-bostiwch ein tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid y Cyfrifiad yn SYG (opens in a new tab) .