Ynglŷn â'r cyfrifiad : O gasglu i gyhoeddi gwybodaeth y cyfrifiad
Cawsom ymateb gwych i Gyfrifiad 2021. Mae troi miliynau o ffurflenni cyfrifiad yn ystadegau sy'n barod i'w cyhoeddi yn dasg fawr sydd â llawer o gamau. Yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), rydym yn gweithio'n galed i gyflawni'r holl gamau hyn. Gwnawn hyn er mwyn sicrhau bod yr ystadegau o ansawdd uchel a'u bod yn cynrychioli'r boblogaeth gyfan, nid dim ond y rhai a wnaeth gwblhau'r holiadur. Mae hyn yn golygu y gall defnyddwyr data'r cyfrifiad ymddiried yn yr ystadegau wrth eu defnyddio i wneud penderfyniadau.
Mae’r fideo animeiddiedig hwn yn esbonio sut rydym yn defnyddio data eich cyfrifiad.
Trawsgrifiad o’r fideo Sut mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn defnyddio eich data cyfrifiad
Darllenwch fwy am y camau rydym yn eu cymryd yn Cyfrifiad 2021 – mae’r cyfrif wedi’i wneud, mae’r data i mewn, felly beth sy’n digwydd nesaf? (yn Saesneg) (opens in a new tab) ar safle blog SYG neu yn yr adrannau canlynol.
Llunio a glanhau
I gynhyrchu ystadegau, mae angen i ni droi atebion o holiaduron y cyfrifiad yn ddata.
Yn gyntaf, lluniwn y data. Mae hyn yn golygu ein bod yn casglu ac yn sganio holiaduron papur ac yn cyfuno'r wybodaeth ynddynt â'r atebion o'r holiaduron ar-lein yn ddiogel.
Nesaf, rydym yn glanhau'r data. Mae hyn yn golygu chwilio am wallau amlwg, er enghraifft rhywun sydd wedi cwblhau holiaduron papur ac ar-lein ar gyfer yr un cyfeiriad mewn camgymeriad.
Cwblhau
Gan ddefnyddio dull ystadegol cydnabyddedig, rydym hefyd yn amcangyfrif ymatebion sydd ar goll i gwestiynau gorfodol.
Caiff y prosesau safonol hyn eu defnyddio ar y rhan fwyaf o ystadegau swyddogol (yn Saesneg) (opens in a new tab) a gynhyrchir o arolygon.
Rydym yn cynnal Arolwg Cwmpas y Cyfrifiad i amcangyfrif faint o bobl y gwnaeth y cyfrifiad eu colli.
Drwy gyfuno canlyniadau'r cyfrifiad ac Arolwg Cwmpas y Cyfrifiad, gallwn ddefnyddio dulliau ystadegol cydnabyddedig i gael amcangyfrif llawn o'r holl bobl yng Nghymru a Lloegr.
Mae'r prosesau hyn yn ein galluogi i greu set o ddata ystadegol o ansawdd uchel i gynhyrchu ystadegau. Mae'r ystadegau hyn yn helpu sefydliadau i gynllunio ac ariannu'r gwasanaethau sydd eu hangen arnom. Rydym yn cadw pob holiadur yn ddiogel ac yn gyfrinachol am 100 mlynedd, fel y disgrifiwn yn Eich data a diogelwch.
Croeswirio
Mae ein proses sicrhau ansawdd yn dechrau cyn gynted ag y bydd gwybodaeth gyntaf y cyfrifiad yn cyrraedd ac mae'n parhau drwy gydol y camau prosesu. Rydym yn chwilio am batrymau anarferol neu annhebygol yn y data ac yn edrych i weld a yw ein prosesau wedi gweithio yn ôl y disgwyl.
Mae'r gwaith hwn yn cwmpasu ystod eang o wiriadau ac yn cynnwys Arolwg Ansawdd y Cyfrifiad. Fel y nodir yn ein cynlluniau sicrhau ansawdd ar wefan SYG (yn Saesneg) (opens in a new tab) , rydym hefyd yn defnyddio ffynonellau data eraill i groeswirio gwybodaeth y cyfrifiad. Caiff y wybodaeth honno ei diogelu yn yr un ffordd â gwybodaeth y cyfrifiad. Dysgwch sut rydym yn cadw gwybodaeth yn ddiogel.
Effeithiau'r coronafeirws (COVID-19)
Cydnabyddwn fod pandemig y coronafeirws wedi effeithio ar wybodaeth cyfrifiad rhai grwpiau yn fwy nag eraill. Felly, rydym yn rhoi sylw arbennig i'n gwaith sicrhau ansawdd ar gyfer y grwpiau hyn.
Er enghraifft, ni fu modd i lawer o fyfyrwyr ddychwelyd i'w cyfeiriad yn ystod y tymor ar ôl Nadolig 2020. Gwnaethom gymryd camau i helpu myfyrwyr i gwblhau'r cyfrifiad ar gyfer y cyfeiriad hwnnw, gan fanteisio ar gael holiadur ar-lein. Rydym yn gwneud gwaith ychwanegol i sicrhau ansawdd y wybodaeth hon.
Defnyddio gwybodaeth leol
Gwnaethom wahodd pob awdurdod lleol i ddweud wrthym am nodweddion y boblogaeth yn ei ardal y gallem eu hystyried wrth wneud ein gwaith sicrhau ansawdd. Am y tro cyntaf, gwnaethom alluogi awdurdodau lleol i weld amcangyfrifon dros dro cyfyngedig o niferoedd y bobl yn eu hawdurdod. Nid oedd yr amcangyfrifon hyn yn cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol. Mae gwybodaeth leol werthfawr yr awdurdodau lleol wedi ein helpu i ddeall unrhyw beth annisgwyl yn y data. Roedd y mynediad hwn hefyd wedi ein helpu fel rhan o'n proses sicrhau ansawdd y byddant yn cael gweld y wybodaeth a, chan ddefnyddio rheolaethau diogelwch llym, roedd yn unol â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (yn Saesneg) (opens in a new tab) .
Cyfrinachedd
Rydym yn dilyn mesurau diogelu rheoli datgelu cryf ar gyfer y data rydym yn bwriadu eu cyhoeddi. Mae a wnelo rheoli datgelu â sicrhau bod yr ystadegau yn ddefnyddiol ac yn werthfawr i ddefnyddwyr, wrth ddiogelu cyfrinachedd gwybodaeth am unigolion, cartrefi a sefydliadau.
Ymgynghori
I sicrhau ymhellach fod y data yn diwallu anghenion defnyddwyr data'r cyfrifiad, gwnaethom gynnal ymgynghoriad ar allbynnau'r cyfrifiad.
Achrediad Ystadegau Gwladol
Mae'r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (yn Saesneg) (opens in a new tab) yn sicrhau bod Cyfrifiad 2021 yn dilyn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (yn Saesneg) (opens in a new tab) . O ganlyniad i'r gwiriadau hyn, nawr bod canlyniadau cyntaf y cyfrifiad wedi'u rhyddhau, mae'r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau wedi cadarnhau achrediad Ystadegau Gwladol (yn Saesneg) (opens in a new tab) .
Dysgwch fwy am y cadarnhad o ddynodiad Ystadegau Gwladol ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr (yn Saesneg) (opens in a new tab) ar wefan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau.