Eich data a diogelwch : Trosolwg
Drwy lenwi'r cyfrifiad, chwaraeodd eich rhan wrth greu darlun o bob un ohonom. Mae hyn yn helpu i benderfynu sut y caiff gwasanaethau eu cynllunio a'u hariannu yn eich ardal leol.
Cadw eich data'n ddiogel
Diogelu eich gwybodaeth yw ein prif flaenoriaeth. Ni all neb eich adnabod o'r ystadegau rydym yn eu cyhoeddi. Mae'r gyfraith yn diogelu'r wybodaeth bersonol a rowch i ni.
Gwybodaeth bersonol yw unrhyw wybodaeth a allai gael ei defnyddio i'ch adnabod chi, er enghraifft, eich enw, cyfeiriad neu ddyddiad geni. Nid ydym yn rhannu'r wybodaeth bersonol hon ag unrhyw un sy'n gwneud penderfyniadau amdanoch chi neu unrhyw wasanaethau a gewch. Mae hyn yn cynnwys pethau fel trethi, budd-daliadau, ceisiadau preswylio neu statws mewnfudo.
Yn ôl y gyfraith, rhaid i'n holl systemau, staff a chyflenwyr ddiogelu eich cyfrinachedd. Ymhlith y deddfau sydd mewn grym i ddiogelu eich data mae:
- Deddf Diogelu Data 2018
- Rheoliad Cyffredinol y Deyrnas Unedig ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)
- Deddf y Cyfrifiad 1920
- Deddf Ystadegau a Gwasanaeth Cofrestru 2007
Caiff eich cofnod yn y cyfrifiad ei gadw'n ddiogel am 100 mlynedd a dim ond wedyn y bydd cenedlaethau'r dyfodol yn gallu ei weld.
Mae'r fideo hwn yn esbonio sut rydym yn cadw data cyfrifiad a gwybodaeth bersonol yn ddiogel.
Trawsgrifiad o'r fideo Beth sy'n digwydd i'm gwybodaeth o'r cyfrifiad?
Adolygiad Diogelwch Annibynnol
Yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), rydym am i chi fod yn hyderus bod yr holl wybodaeth rydym ni'n ei chasglu yn ystod Cyfrifiad 2021 yn ddiogel.
I gefnogi hyn, rydym ni, ac Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon (NISRA), wedi comisiynu adolygiad annibynnol o'n trefniadau diogelwch.
Gallwch ddarllen Adolygiad Sicrwydd gwybodaeth Annibynnol Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg) (opens in a new tab) ar wefan SYG.