Cam dau - Cyfuniadau o ddata Cyfrifiad 2021 : Trosolwg
Yng ngham dau, gallwch gyfuno llawer o newidynnau o’r data rydym yn ei gyhoeddi.
Mae newidyn yn nodwedd arbennig o berson neu gartref, er enghraifft, crefydd neu fath o lety.
Gallwch lawrlwytho setiau data lle mae’r newidynnau eisoes wedi’u dewis ar eich cyfer chi neu’r rhai rydych chi’n eu gwneud eich hun trwy ychwanegu a newid y newidynnau. Gelwir y rhain yn ddata amlamryweb.
Mae’r hyblygrwydd hwn yn golygu y gallwch archwilio a deall yn llawn nodweddion poblogaeth a’r cysylltiadau rhyngddynt.
Mae mwy o wybodaeth am ein cynlluniau ar gyfer rhyddhau data amlamryweb Cyfrifiad 2021 (opens in a new tab) ar wefan Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG).