Cam un - Canlyniadau cyntaf Cyfrifiad 2021
Dechreuodd cam un pan wnaethom gyhoeddi'r canlyniadau cyntaf ddydd Mawrth 28 Mehefin 2022. Amcangyfrifon yw’r rhain o nifer y bobl a’r cartrefi yng Nghymru a Lloegr. Maent yn dangos nifer y bobl yn ôl rhyw a grwpiau oedran ar lefel awdurdod lleol, wedi'i dalgrynnu i'r 100 agosaf ac mewn grwpiau oedran o bum mlynedd.
Niferoedd y boblogaeth ar gyfer Cymru a Lloegr ar 21 Mawrth 2021
Ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, maint y boblogaeth breswyl arferol yng Nghymru a Lloegr oedd 59,597,300.
Poblogaeth Lloegr oedd 56,489,800.
Poblogaeth Cymru oedd 3,107,500.
Hwn oedd y mwyaf a fu erioed yn y boblogaeth.
Dysgwch fwy am ystyr niferoedd y boblogaeth yn yr erthygl ryngweithiol hon, Sut newidiodd y boblogaeth lle rydych chi'n byw (yn Saesneg) (opens in a new tab) ar wefan Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG).
Gallwch ddysgu mwy o wybodaeth am ganlyniadau cyntaf Cyfrifiad 2021 (opens in a new tab) ar wefan SYG.
Ar 2 Tachwedd, gwnaethom ryddhau amcangyfrifon heb eu talgrynnu wedi'u diweddaru o'r boblogaeth ar gyfer Cymru a Lloegr. Nid ydym wedi'u talgrynnu i'r 100 agosaf ac maent yn dangos nifer y bobl yn ôl rhyw ac mewn grwpiau oedran o flwyddyn.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am amcangyfrifon heb eu talgrynnu o'r boblogaeth yng Nghyfrifiad 2021 (yn Saesneg) (opens in a new tab) ar wefan SYG.