Demograffeg a mudo : Trosolwg
Ar 2 Tachwedd 2022, fel rhan o'n datganiadau crynodebau pwnc ar gyfer Cyfrifiad 2021, gwnaethom gyhoeddi data am ddemograffeg a mudo yng Nghymru a Lloegr.
Yn y fideo hwn rydym yn esbonio beth mae crynodeb pwnc demograffeg a mudo Cyfrifiad 2021 yn ei gynnwys. Rydym hefyd yn tynnu sylw at rai o'r data pwysicaf a mwyaf diddorol ohono.
Beth sydd wedi'i gynnwys yng nghanlyniadau demograffeg Cyfrifiad 2021
Roedd canlyniadau demograffeg Cyfrifiad 2021 yn cynnwys data am nodweddion cartrefi a phreswylwyr yng Nghymru a Lloegr.
Roedd hyn yn ateb cwestiynau fel:
- faint o gartrefi oedd yng Nghymru a Lloegr?
- faint o bobl oedd yn byw mewn sefydliadau cymunedol, fel llety gwarchod, gwestai, tai llety neu neuaddau preswyl i fyfyrwyr?
- beth oedd maint cartref ar gyfartaledd?
- faint o gartrefi un person, cartrefi un teulu a chartrefi eraill oedd yna?
- faint o bobl oedd yn briod neu mewn partneriaeth sifil?
Beth sydd wedi'i gynnwys yng nghanlyniadau mudo rhyngwladol Cyfrifiad 2021
Roedd canlyniadau mudo rhyngwladol Cyfrifiad 2021 yn cynnwys data am nodweddion poblogaeth Cymru a Lloegr a aned y tu allan i'r Deyrnas Unedig.
Roedd hyn yn ateb cwestiynau fel:
- beth oedd y wlad enedigol fwyaf cyffredin y tu allan i'r Deyrnas Unedig?
- beth oedd y pasbort mwyaf cyffredin nad oedd yn basbort y Deyrnas Unedig?
- faint o bobl oedd â chyfeiriad y tu allan i'r Deyrnas Unedig flwyddyn cyn y cyfrifiad?
- faint o bobl oedd wedi bod yn byw yng Nghymru a Lloegr am lai na 12 mis ac nad oeddent yn bwriadu aros am fwy na 12 mis?
Gallwch ddysgu mwy am ganlyniadau demograffeg a mudo Cyfrifiad 2021 ar gyfer Cymru a Lloegr (opens in a new tab) ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG).
Fel rhan o'n canlyniadau demograffeg a mudo, gwnaethom hefyd ryddhau amcangyfrifon heb eu talgrynnu wedi'u diweddaru o'r boblogaeth ar gyfer Cymru a Lloegr. Nid ydym wedi'u talgrynnu i'r 100 agosaf ac maent yn dangos nifer y bobl yn ôl rhyw ac mewn grwpiau oedran o flwyddyn.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am amcangyfrifon heb eu talgrynnu o'r boblogaeth yng Nghyfrifiad 2021 (yn Saesneg) (opens in a new tab) ar wefan SYG.
Gwnaethom greu " Map y cyfrifiad (yn Saesneg) (opens in a new tab) " ar wefan SYG. Mae’r map rhyngweithiol hwn yn eich galluogi i weld data demograffeg a mudo mewn ardaloedd awdurdod lleol a chymdogaethau gwahanol, yn ogystal â data Cyfrifiad 2021 arall a ryddhawyd eisoes.
Profwch eich gwybodaeth am eich ardal awdurdod lleol yn ein cwis rhyngweithiol y cyfrifiad. Gallwch roi cynnig ar gwis y cyfrifiad (opens in a new tab) ar wefan SYG.