Iechyd, anabledd a gofal di-dâl : Trosolwg
Ar 19 Ionawr 2023, fel rhan o'n datganiadau crynodebau pwnc ar gyfer Cyfrifiad 2021, gwnaethom gyhoeddi data am iechyd, anabledd a gofal di-dâl yng Nghymru a Lloegr.
Yn y fideo hwn rydym yn esbonio beth mae crynodeb pwnc iechyd, anabledd a gofal di-dâl Cyfrifiad 2021 yn ei gynnwys. Rydym hefyd yn tynnu sylw at rai o'r data pwysicaf a mwyaf diddorol ohono.
Gwnaethom greu " Map y cyfrifiad (yn Saesneg) (opens in a new tab) " ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG). Mae'r map rhyngweithiol hwn yn eich galluogi i weld data iechyd, anabledd a gofal di-dâl mewn ardaloedd awdurdod lleol a chymdogaethau gwahanol, yn ogystal â data Cyfrifiad 2021 arall a ryddhawyd eisoes.
Gan ddefnyddio data o Gyfrifiad 2011 a Chyfrifiad 2021, mae ein herthygl ryngweithiol yn edrych ar sut mae iechyd, anabledd, a gofal di-dâl yn effeithio ar bobl mewn gwahanol ardaloedd.
Dysgwch fwy yn Y rhaniad daearyddol mewn iechyd cyffredinol, anabledd a gofal di-dâl: Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg) (opens in a new tab) ar wefan SYG.