Dywedwch wrthym a ydych chi'n derbyn cwcis ons.gov.uk

Rydym ni’n defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth am y ffordd rydych chi’n defnyddio cyfrifiad.gov.uk. Rydym ni’n defnyddio’r wybodaeth hon i sicrhau bod y wefan yn gweithio cystal â phosibl ac i wella ein gwasanaethau.

You have accepted all additional cookies. You have rejected all additional cookies. You can change your cookie preferences at any time.

Neidio i’r prif gynnwy

Y Gymraeg yng Nghymru

Ar 6 Rhagfyr 2022, fel rhan o'n datganiadau crynodebau pwnc ar gyfer Cyfrifiad 2021, gwnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi data am sgiliau Cymraeg pobl tair oed neu hŷn sy'n byw yng Nghymru.

Beth sydd wedi'i gynnwys yng nghanlyniadau Cyfrifiad 2021 am y Gymraeg yng Nghymru

Roedd canlyniadau Cyfrifiad 2021 am y Gymraeg yng Nghymru yn cynnwys data am sgiliau Cymraeg pobl tair oed neu hŷn sy'n byw yng Nghymru.

Roedd hyn yn ateb cwestiynau fel:

  • sut mae nifer y bobl a ddywedodd eu bod yn gallu siarad Cymraeg wedi newid dros amser?
  • sut mae niferoedd y bobl a ddywedodd eu bod yn gallu siarad Cymraeg yn amrywio yn ôl oedran ac ar draws awdurdodau lleol ac ardaloedd bach?
  • sut mae gallu'r boblogaeth i ddeall Cymraeg llafar, darllen Cymraeg ac ysgrifennu Cymraeg wedi newid dros amser?

Gallwch ddysgu mwy am ganlyniadau'r Gymraeg yng Nghymru (opens in a new tab)  ar wefan Llywodraeth Cymru.

Crynodeb o ganlyniadau'r Gymraeg yng Nghymru

Yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), gwnaethom gyhoeddi hefyd crynodeb o ganlyniadau'r Gymraeg yng Nghymru (opens in a new tab)  ar wefan SYG.

Important information:

Ysgrifennodd Prif Ystadegydd Llywodraeth Cymru am sut y gallwch ddeall y datganiad cyntaf o ddata o Gyfrifiad 2021 am y Gymraeg.

Gallwch ddarllen Diweddariad y Prif Ystadegydd: deall data Cyfrifiad 2021 am y Gymraeg (opens in a new tab)  ar flog Digidol a Data Llywodraeth Cymru.

Important information:

Gwnaethom greu " Map y cyfrifiad (yn Saesneg) (opens in a new tab) " ar wefan SYG. Mae'r map rhyngweithiol hwn yn eich galluogi i weld data am sgiliau Cymraeg yng Nghymru mewn ardaloedd awdurdod lleol a chymdogaethau gwahanol, yn ogystal â data Cyfrifiad 2021 arall a ryddhawyd eisoes.