Rhaglen ddadansoddi Cyfrifiad 2021
Mae rhaglen ddadansoddi Cyfrifiad 2021 yn cynnwys ymchwil rydym yn bwriadu ei chyhoeddi dros y tair blynedd nesaf gan ddefnyddio data o Gyfrifiad 2021. Bydd y rhaglen yn cynhyrchu ffeithiau a ffigurau am boblogaeth Cymru a Lloegr, yn ogystal ag ystadegau sy'n berthnasol i bolisïau cyhoeddus pwysig. Ein nod yw rhannu'r gwaith dadansoddi diweddaraf fel y gall y rhai sy'n gwneud penderfyniadau ei ddefnyddio i lywio'r polisïau a'r gwasanaethau y mae pob un ohonom yn eu defnyddio.
Bydd yr erthyglau yn mynd yn fwy cymhleth dros amser, gan gysylltu â data pellach a chymharu ag erthyglau eraill.
Bydd blwyddyn gyntaf rhaglen ddadansoddi Cyfrifiad 2021 yn dechrau yn 2023 a byddwn yn rhyddhau dadansoddiadau mwy penodol ym mlynyddoedd dau a thri.
Gwaith dadansoddi yn ôl pwnc
Mae'r rhaglen yn cynnwys gwaith dadansoddi ar amrywiaeth eang o bynciau, gan gynnwys:
- heneiddio
- demograffeg
- addysg
- cydraddoldeb
- grŵp ethnig, hunaniaeth genedlaethol, iaith a chrefydd
- iechyd, anabledd a gofal di-dâl
- tai
- mudo rhyngwladol
- y farchnad lafur
- cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd
- teithio i'r gwaith a gwaith dadansoddi daearyddol arall
- cyn-filwyr lluoedd arfog y Deyrnas Unedig
Gallwch ddod o hyd i ddyddiadau cyhoeddi'r erthyglau dadansoddol hyn yn y calendr datganiadau (yn Saesneg) (opens in a new tab) ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG).
Gallwch ddysgu mwy ar dudalen ddadansoddi Cyfrifiad 2021 (yn Saesneg) (opens in a new tab) ar wefan SYG.