Effaith amgylcheddol deunyddiau argraffedig y cyfrifiad
Yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), roeddem ni am i'n deunyddiau argraffedig ar gyfer Cyfrifiad 2021 fod mor ecogyfeillgar â phosibl.
Gwnaethom leihau effaith amgylcheddol y llythyrau, y taflenni a'r deunyddiau argraffedig eraill y gwnaethom eu hanfon at bobl mewn sawl ffordd.
Papur carbon gytbwys
Gan weithio gyda Loveurope and Partners (LEAP) ac Ymddiriedolaeth Tir y Byd, gwnaethom ddefnyddio papur carbon gytbwys ar gyfer 75% o holl ddeunyddiau Cyfrifiad 2021.
Cafodd yr hyn sy'n cyfateb i 8,079kg o garbon deuocsid ei gydbwyso yn erbyn y papur y gwnaethom ei ddefnyddio. Gwnaeth hyn alluogi Ymddiriedolaeth Tir y Byd i ddiogelu 5,655 metr sgwâr o goedwigoedd trofannol sydd dan fygythiad difrifol.

Papur ardystiedig y Cyngor Stiwardiaeth Coedwigoedd
Mae'r Cyngor Stiwardiaeth Coedwigoedd yn helpu i ofalu am goedwigoedd y byd a chaiff papur ardystiedig y Cyngor ei wneud o ddeunyddiau sy'n bodloni ei ofynion amgylcheddol llym.
Gwnaethom ddefnyddio papur ardystiedig y Cyngor ar gyfer 96% o ddeunyddiau Cyfrifiad 2021.
Inciau ecogyfeillgar
Cafodd yr inciau a ddefnyddiwyd i argraffu 96% o ddeunyddiau Cyfrifiad 2021 eu cynhyrchu o adnoddau adnewyddadwy ac nid ystyrir eu bod yn beryglus.
Ailgylchu holiaduron papur
Rydym ni’n ailgylchu holiaduron papur Cyfrifiad 2021. Mae hyn yn cynnwys holiaduron papur wedi’u cwblhau, y gwnaethom eu sganio a’u trawsgrifio, yn ogystal â rhai holiaduron gwag ychwanegol.
Ar ôl i ni gipio’r holl ddata o’r holiaduron, gan gynnwys delwedd lawn o bob tudalen, gwnaethom eu rhwygo.
Yn gyfan gwbl, rydym wedi rhwygo 3.5 miliwn o holiaduron papur a, thrwy hyn, byddwn wedi ailgylchu dros 433 tunnell o bapur.
Amcangyfrifir bod hyn yn arbed:
- 7,375 o goed
- 1,432 llath giwbig o le tirlenwi
- 128 tunnell o allyriadau carbon
- 13,805,020 litr o ddŵr