Fideos hygyrch gyda BSL
Defnyddiwch y fideos hyn ochr yn ochr â holiadur y cyfrifiad i'ch helpu i ateb y cwestiynau.
Mae'r holl fideos yn cynnwys:
- cyfieithiadau Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
- isdeitlau Saesneg
- sain yn Saesneg
Fideos gwybodaeth am y cyfrifiad
Mae'r fideos hyn yn cynnwys cyfieithiadau o'r wybodaeth y gwnaethom ei hanfon atoch chi drwy'r post.
Yr hyn sydd angen i chi ei wybod
Fideos ar gwestiynau'r cyfrifiad
Dewiswch bwnc er mwyn dod o hyd i gyfieithiad o gwestiynau'r cyfrifiad a'r opsiynau ateb.
Pobl sy'n byw yma
- Gwybodaeth am bwy sy'n byw yma
- Ydych chi’n byw yn y cyfeiriad hwn fel arfer?
- Beth yw eich enw?
- Oes unrhyw un o’r bobl ganlynol hefyd yn byw yn y cyfeiriad hwn ddydd Sul 21 Mawrth 2021?
- Pwy arall sy'n byw yn y cyfeiriad hwn?
- Oes unrhyw un arall yn byw yn y cyfeiriad hwn?
- Oes unrhyw un o’r bobl ganlynol yn byw yn y cyfeiriad hwn ddydd Sul 21 Mawrth 2021?
- Oes angen i chi ychwanegu unrhyw un?
- Ar wahân i bawb a gafodd eu cynnwys eisoes, pwy arall sy’n aros dros nos ddydd Sul 21 Mawrth 2021?
Perthynas aelodau o'r cartref â’i gilydd
Cartref a llety
- Gwybodaeth am y cartref a'r llety
- Pa fath o gartref yw'r cyfeiriad hwn?
- Pa un o'r canlynol yw eich tŷ neu eich byngalo?
- Ble mae eich fflat neu maisonette?
- Ydy pob ystafell yn y cartref, gan gynnwys y gegin, yr ystafell ymolchi a’r toiled, y tu ôl i ddrws sydd ddim ond yn cael ei ddefnyddio gan aelodau o’r cartref hwn?
- Sawl ystafell wely sydd at ddefnydd aelodau o’r cartref hwn yn unig?
- Pa fath o wres canolog sydd yn y cyfeiriad hwn?
- Oes aelod neu aelodau o’ch cartref yn berchen ar y cyfeiriad hwn neu’n ei rentu?
- Pwy yw eich landlord?
- Sawl car neu fan sy’n eiddo i aelodau o’r cartref hwn, neu sydd ar gael i’w defnyddio ganddynt?
Manylion personol
- Newid mewn amgylchiadau oherwydd y coronafeirws (COVID-19)
- Gwybodaeth am breswylwyr unigol
- Ai chi yw (enw'r preswylydd)?
- Beth yw eich dyddiad geni?
- Ydy'r oedran hwn yn gywir?
- Beth yw eich rhyw?
- Yn gyfreithiol, beth yw eich statws priodasol neu statws eich partneriaeth sifil gofrestredig?
- Pwy yw eich priod cyfreithiol?
- Pwy oedd eich priod cyfreithiol?
- Pwy yw eich partner sifil cofrestredig?
- Pwy oedd eich partner sifil cofrestredig?
- Ydych chi’n aros mewn cyfeiriad arall am fwy na 30 diwrnod y flwyddyn?
- Beth yw’r math o gyfeiriad yn y Deyrnas Unedig, neu mewn gwlad arall, lle rydych chi’n aros am fwy na 30 diwrnod y flwyddyn?
- Os ydych chi'n 18 oed neu'n iau, ydych chi'n blentyn ysgol neu'n fyfyriwr mewn addysg amser llawn?
- Os ydych chi'n 19 oed neu'n hŷn, ydych chi'n fyfyriwr mewn addysg amser llawn?
- Yn ystod y tymor, ble ydych chi’n byw fel arfer?
- Ydy'r cyfeiriad hwn yn y Deyrnas Unedig?
- Ym mha wlad y cawsoch chi eich geni?
- Pryd ddaethoch chi i fyw yn y Deyrnas Unedig ddiwethaf?
- Wnaethoch chi ddod i'r Deyrnas Unedig ar 21 Mawrth 2020 neu ar ôl hynny?
- Gan gynnwys yr amser rydych chi wedi’i dreulio yma’n barod, am faint ydych chi'n bwriadu aros yn y Deyrnas Unedig?
- Flwyddyn yn ôl, beth oedd eich cyfeiriad arferol?
- Sut fyddech chi’n disgrifio eich hunaniaeth genedlaethol?
- Beth yw eich grŵp ethnig?
- Pa un sy’n disgrifio orau eich grŵp ethnig neu eich cefndir Gwyn?
- Pa un sy'n disgrifio orau eich grŵp ethnig neu gefndir Cymysg neu Amlethnig?
- Pa un sy’n disgrifio orau eich grŵp ethnig neu eich cefndir Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig?
- Pa un sy’n disgrifio orau eich grŵp ethnig neu eich cefndir Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd?
- Pa un sy'n disgrifio orau eich grŵp ethnig neu eich cefndir arall?
- Beth yw eich crefydd?
- Beth yw eich prif iaith?
- Pa mor dda ydych chi’n gallu siarad Saesneg?
- Ydych chi’n gallu deall, siarad, darllen neu ysgrifennu Cymraeg?
- Pa basbortau sydd gennych chi?
- Pa un sy’n disgrifio orau eich cyfeiriadedd rhywiol?
- Ydy’r rhywedd rydych chi’n uniaethu ag ef yr un peth â’r rhyw a gofrestrwyd pan gawsoch chi eich geni?
Iechyd
- Sut mae eich iechyd yn gyffredinol?
- Oes gennych chi gyflwr neu salwch corfforol neu feddyliol sydd wedi para neu sy’n debygol o bara 12 mis neu fwy?
- Ydy unrhyw gyflwr neu salwch sydd gennych chi’n lleihau eich gallu i wneud gweithgareddau pob dydd?
- Ydych chi’n gofalu am unrhyw un, neu’n cynnig unrhyw help neu gefnogaeth i unrhyw un, oherwydd cyflwr neu salwch corfforol neu feddyliol hir dymor, neu broblemau sy’n gysylltiedig â henaint?
Cymwysterau
- Cyflwyniad i gymwysterau
- Ydych chi wedi cwblhau prentisiaeth?
- Oes gennych chi gymhwyster ar lefel gradd neu uwch?
- Oes gennych chi NVQ neu gymhwyster cyfatebol?
- Oes gennych chi Lefel AS (Safon UG), Lefel A (Safon Uwch) neu gymhwyster cyfatebol?
- Oes gennych chi gymhwyster TGAU neu gymhwyster cyfatebol?
- Oes gennych chi unrhyw gymwysterau eraill?
Cyflogaeth
- Ydych chi wedi gwasanaethu yn Lluoedd Arfog y Deyrnas Unedig yn y gorffennol (e.e. y fyddin)?
- Yn ystod y 7 diwrnod diwethaf, oeddech chi’n gwneud unrhyw un o’r canlynol?
- Pa un o’r canlynol sy’n disgrifio’r hyn roeddech chi’n ei wneud yn ystod y 7 diwrnod diwethaf?
- Yn ystod y 4 wythnos diwethaf, oeddech chi wrthi’n chwilio am unrhyw fath o waith am dâl?
- Ydych chi ar gael i ddechrau gweithio yn y pythefnos nesaf?
- Yn ystod y 7 diwrnod diwethaf, oeddech chi’n aros i ddechrau swydd roeddech chi eisoes wedi’i derbyn?
- Ydych chi erioed wedi gwneud unrhyw waith am dâl?
- Cyflwyniad i brif swydd
- Yn eich prif swydd, beth yw eich statws cyflogaeth?
- Beth yw enw’r sefydliad neu'r busnes rydych chi'n gweithio iddo?
- Beth yw teitl llawn eich swydd?
- Beth ydych chi’n ei wneud yn eich prif swydd?
- Beth yw prif weithgarwch eich sefydliad?
- Ydych chi'n goruchwylio neu'n cadw golwg ar waith gweithwyr eraill o ddydd i ddydd?
- Cyflwyniad i'ch prif swydd diwethaf
- Yn eich prif swydd, beth oedd eich statws cyflogaeth?
- Beth oedd enw'r sefydliad neu'r busnes roeddech chi'n gweithio iddo?
- Beth oedd teitl llawn eich swydd?
- Beth oeddech chi'n ei wneud yn eich prif swydd?
- Beth oedd prif weithgarwch eich sefydliad, busnes neu'ch gwaith ar eich liwt eich hun?
- Beth oedd prif weithgarwch eich sefydliad? (Cymru)
- Oeddech chi'n goruchwylio neu'n cadw golwg ar waith gweithwyr eraill o ddydd i ddydd?
- Yn eich prif swydd, sawl awr yr wythnos ydych chi’n gweithio fel arfer?
- Sut ydych chi’n teithio i’r gwaith fel arfer?
- Ble ydych chi’n gweithio’n bennaf?
- Ydych chi'n gweithio yn y Deyrnas Unedig yn bennaf?