Datganiadau i'r wasg : Adnoddau penigamp i ysgolion ar y cyfrifiad bellach yn fyw
Mae amrywiaeth o adnoddau addysgu difyr a diddorol bellach yn fyw fel rhan o ymgyrch benigamp Gadewch i ni Gyfrif! eleni ar gyfer ysgolion cynradd.
Ynghyd â'r ganolfan adnoddau addysg, iChild, mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) unwaith eto wedi creu cynnwys a fydd yn dod â data'r cyfrifiad yn fyw yn yr ystafell ddosbarth.
Ers i'r rhaglen lansio ym mis Ionawr eleni, mae dros 1,200 o ysgolion ledled Cymru a Lloegr eisoes wedi cofrestru, a disgwylir i fwy na 250,000 o blant gymryd rhan.
I gael gafael ar yr adnoddau newydd ar unwaith, gall ysgolion gofrestru ar gyfer rhaglen eleni yn (opens in a new tab) https://letscount.ichild.co.uk/?l=cy-GB (opens in a new tab)
Mae'r adnoddau yn cynnwys pum gwers newydd hawdd eu defnyddio sy'n mynd â phlant ar daith o gasglu'r data i ddadansoddi a chyhoeddi'r canfyddiadau.
Mae pob gwers ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg ac yn addas ar gyfer dysgu yn yr ystafell ddosbarth ac o bell. Bydd hefyd wers fideo ar gyfer ysgolion sy'n cymryd rhan wedi'i chyflwyno gan arbenigwyr SYG.
Dywedodd Pete Benton, y Dirprwy Ystadegydd Gwladol ar gyfer Iechyd, Poblogaeth a Dulliau yn SYG: “Wrth i ni ddisgwyl canlyniadau Cyfrifiad 2021 yr haf hwn, pa well amser i ysbrydoli ein to ifanc am y cyfrifiad ac ystadegau? Mae'n wych gweld cynifer o ysgolion yn cofrestru ar gyfer ein rhaglen addysgol boblogaidd, Gadewch i ni Gyfrif!. Drwy'r adnoddau gwych hyn, bydd disgyblion yn meithrin dealltwriaeth o bwysigrwydd y cyfrifiad a sut rydym yn troi'r wybodaeth a gasglwn yn ystadegau a fydd yn eu helpu nhw, eu hysgol a'u hardal leol.”
Dywedodd Phil Bird, Prif Swyddog Gweithredol Family & Education/iChild: “Rydym wrth ein bodd i lansio'r gwersi newydd hyn gyda SYG ar gyfer Gadewch i ni Gyfrif! 2022. Mae'r adnoddau am ddim yn defnyddio Cyfrifiad 2021, sef digwyddiad pwysig go iawn, fel sbardun a gellir eu gwneud yn berthnasol i ardal leol ysgol. Gall plant ddysgu am bwysigrwydd y cyfrifiad a sut mae'n cefnogi gwasanaethau lleol.
Mae'r rhaglen yn cefnogi rhifedd, hanes, daearyddiaeth a sgiliau ysgrifennu, ac mae'n dilyn y 14 o wersi a ddatblygwyd ar gyfer Gadewch i ni Gyfrif! 2021, sydd ar gael o hyd. Mae dros 1,200 o ysgolion eisoes yn cymryd rhan ac rydym am annog ysgolion cynradd eraill i gofrestru heddiw!”
Ysgol Gynradd Eglwys Loegr St Alban yn Havant (Hampshire) oedd yr enillydd cyffredinol yng nghystadleuaeth i ysgolion Gadewch i ni Gyfrif! y llynedd. Dywedodd y Dirprwy Bennaeth, Sharon James: “Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gymryd rhan yn Gadewch i ni Gyfrif! eto eleni, yn y cyfnod cyn cyhoeddi'r boblogaeth. Gwnaethom gymryd rhan yng ngweithgareddau Gadewch i ni Gyfrif! y llynedd ar gyfer y cyfrifiad a wnaeth atgoffa ein hysgol, ni waeth pa mor fach yw'r niferoedd, y gall ac y dylai pob ‘UN’ wneud gwahaniaeth. Dangosodd i ni fod gan ein gweithredoedd unigol, gyda'i gilydd, y pŵer i effeithio ar fywydau pobl eraill mewn ffordd gadarnhaol. Gwnaeth ein hysbrydoli i barhau i sicrhau bod data yn gwneud gwahaniaeth!”
Gwnaeth Ysgol Gynradd Gatholig St Giles yn Stoke-on-Trent hefyd gymryd rhan yn Gadewch i ni Gyfrif! 2021. Dywedodd Kate Haines, Arweinydd Mathemateg: “Roedd broses y cyfrifiad yn ddiddorol iawn i'r plant y llynedd. Roeddent yn hoff iawn o'r syniad y gallai mathemateg a data'r cyfrifiad gael effaith wirioneddol ar eu hardal leol a'u bywydau pob dydd. Gwnaethant fwynhau defnyddio'r adnoddau gwersi a ddarparwyd ac roedd y cathod cyfrif yn boblogaidd iawn gyda phob grŵp blwyddyn! Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gymryd rhan eto eleni.”
Ochr yn ochr â'r gwersi, anogir ysgolion i gynnal eu diwrnod Gadewch i ni Gyfrif! eu hunain yn ystod y cyfnod cyn cyhoeddi canlyniadau cyntaf Cyfrifiad 2021, lle y gall plant gyfrif pethau a chasglu data ar unrhyw achos neu bwnc sy'n bwysig iddyn nhw neu eu hysgol. Roedd Cyfrifiad 2021 yn llwyddiant enfawr gyda 97% o gartrefi ledled Cymru a Lloegr yn cymryd rhan.
Cofrestrwch yma: (opens in a new tab) https://letscount.ichild.co.uk/?l=cy-GB (opens in a new tab)
Nodiadau i olygyddion
- Mae rhaglen Gadewch i ni Gyfrif! wedi cael ei hachredu gan Mathematics in Education and Industry, y Gymdeithas Genedlaethol ar gyfer Addysgu Saesneg a'r Gymdeithas Ddaearyddol a chafodd ei henwi'n Rhaglen Addysg STEM y Flwyddyn yn 2021. Mathemateg ac ystadegau sydd wrth wraidd y rhaglen, ac mae'n darparu cynlluniau gwersi hyblyg a gweithgareddau sy'n ennyn diddordeb disgyblion er mwyn iddynt ddysgu sut y gallant ddefnyddio ystadegau mewn llawer o bynciau.
- I gael gwybodaeth am Gyfrifiad 2021 ewch i www.cyfrifiad.gov.uk (opens in a new tab) neu dilynwch @cyfrifiad2021 (opens in a new tab)