Datganiadau i'r wasg : Ysgol Gynradd Gymraeg Tonyrefail yn ennill prif wobr Cymru yng nghystadleuaeth Cyfrifiad 2021
Mae Ysgol Gynradd Gymraeg Tonyrefail yn Rhondda Cynon Taf wedi ennill cyfarpar STEM newydd a'r cyfle i gyhoeddi canlyniadau Cyfrifiad 2021.
Enillodd yr ysgol yn y Porth brif wobr Cymru yng nghystadleuaeth ‘Gadewch i ni Gyfrif’ y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), lle bu pobl ifanc o fwy na 250 o ysgolion cynradd yn cyfrif pethau yn ystod taith gerdded 20 munud o amgylch eu hysgol ac yn datblygu mapiau ac arddangosfeydd yn seiliedig ar eu hysgol.
Dywedodd Ceri Hughes ac Aled Hughes, athrawon dosbarth a gynhaliodd y prosiect yn Ysgol Gynradd Gymraeg Tonyrefail: “Rydym yn falch iawn o'n disgyblion ac rydym wrth ein bodd ein bod wedi ennill y categorïau gorau yng Nghymru a'r ysgol a ddaeth yn ail yng nghystadleuaeth ‘Gadewch i ni Gyfrif’ Cyfrifiad 2021. Rhoddodd y prosiect gyfle i'r plant arwain y gwaith dysgu, gyda chymorth adnoddau dwyieithog rhagorol.
“Roedd y disgyblion yn llawn cymhelliant drwy gydol y prosiect a gwnaethant ddatblygu eu sgiliau trawsgwricwlaidd yn unol â'r cwricwlwm i Gymru. Pwy wyddai y gallai data fod yn gymaint o hwyl!”
Roedd y gystadleuaeth yn rhan o raglen ehangach i ysgolion a oedd yn cael ei chynnal gan SYG. Roedd y rhaglen, a gafodd ei datblygu gan iChild, yn cynnwys 14 o adnoddau trawsgwricwlaidd, yn addysgu myfyrwyr am bwysigrwydd y cyfrifiad a sut y gall data fod o fudd i'w hardaloedd lleol.
Gwnaeth yr hanesydd Prydeinig, yr Athro David Olusoga OBE, hefyd gyflwyno gwers rithwir fyw am amrywiaeth, cynhwysiant a'r cyfrifiad i filoedd o blant ysgol.
Fel rhan o gystadleuaeth Gadewch i ni Gyfrif, cymharodd disgyblion Ysgol Gynradd Gymraeg Tonyrefail nifer y siaradwyr Cymraeg ledled Cymru gan ddefnyddio data'r cyfrifiad o 1901 a 2011. Gwnaethant gymharu nifer y siaradwyr Cymraeg mewn siroedd gwahanol ledled Cymru, gan roi sylw arbennig i'w cymuned eu hunain gan gynnwys cyfrifo faint o ieithoedd a gaiff eu siarad yn yr ysgol.
“Roedd yn wych gweld cymaint o frwdfrydedd a chreadigrwydd gan bawb a gymerodd ran yng nghystadleuaeth Gadewch i ni Gyfrif, gyda phlant wir yn dod â'r cyfrifiad yn fyw mewn llawer o ffyrdd,” meddai Iain Bell, dirprwy ystadegydd gwladol a'r dyn sy'n gyfrifol am y cyfrifiad. “Cawsom lawer iawn o gynigion gwych ac roedd wir yn anodd dewis yr enillwyr.
“Mae Cyfrifiad 2021 wedi bod yn llwyddiant ysgubol a gallwn bellach edrych ymlaen at weld y ddwy ysgol fuddugol o Hampshire a Rhondda Cynon Taf yn ein helpu i ddatgelu'r canlyniadau cyntaf y flwyddyn nesaf.”
Bydd Ysgol Gynradd Gymraeg Tonyrefail yn cael talebau i brynu cyfarpar STEM. Ysgol Gynradd Eglwys Loegr St Alban yn Hampshire enillodd y wobr gyffredinol. Bydd y ddwy ysgol hefyd yn chwarae rôl yn y gwaith o ddatgelu canlyniadau cyntaf Cyfrifiad 2021 y gwanwyn nesaf.
Mae goreuon y gweddill wedi cael eu dewis a byddant hefyd yn cael gwerth £250 o gyfarpar gan Technology Will Save Us (TWSU). Y rhain yw:
- Ysgol Iau Syr John Sherbrooke, Swydd Nottingham
- Ysgol Gynradd East Tilbury, Essex
- Ysgol Gynradd Eglwys Loegr St Mary, Willesden
- Ysgol Gynradd Gatholig St Paul, Stockton on Tees
- Ysgol Gynradd Claremont, Manceinion
- Ysgol Gynradd Calstock, Cernyw
- Ysgol Gynradd Eglwys Loegr St Matthew, Birmingham
- Academi Gymunedol Diamond Wood, Dewsbury
Dywedodd Phil Bird, Prif Swyddog Gweithredol Family & Education ac iChild: “Roedd safon y cynigion yng nghystadleuaeth Gadewch i ni Gyfrif yn uchel dros ben ac roedd yn anodd iawn dewis yr enillwyr. Mae'n glir bod y plant wedi dangos dychymyg hyfryd yn y ffordd y maent wedi defnyddio cyfrif a data i wneud gwahaniaeth yn yr ysgol ac yn eu cymuned leol.
“Dangosodd y disgyblion yn y ddwy ysgol fuddugol, Ysgol Gynradd Eglwys Loegr St Alban ac Ysgol Gynradd Gymraeg Tonyrefail yn y Porth, greadigrwydd gwych yn eu prosiectau cyfrif a gwnaethant gynhyrchu arddangosfeydd a fideos ysbrydoledig. Nod Gadewch i ni Gyfrif! oedd helpu i wella sgiliau mathemateg, daearyddiaeth, hanes ac ysgrifennu, gan ddefnyddio Cyfrifiad 2021, sef digwyddiad pwysig mewn bywyd go iawn, fel sbardun. Mae'n hyfryd gweld bod cynifer o ysgolion wedi manteisio ar y rhaglen addysg hon.”
Cynhaliwyd Diwrnod y Cyfrifiad ddydd Sul 21 Mawrth ac mae wedi cael ymateb gwych. Os nad ydych chi wedi cwblhau eich cyfrifiad, nid oes llawer o amser ar ôl cyn i'r holiadur ar-lein gau. Bydd cymorth a holiaduron papur ar gael ar gais tan 11 Mehefin drwy ganolfan gyswllt y cyfrifiad ar radffôn 0800 169 2021 yng Nghymru a 0800 141 2021 yn Lloegr.
Bydd cartrefi sy'n gwrthod cymryd rhan yn wynebu dirwy o £1000.
Nodyn i olygyddion
- Cafodd y cynigion eu beirniadu gan banel o arbenigwyr gan gynnwys Dirprwy Ystadegydd Gwladol SYG, Iain Bell, Arbenigwr Mathemateg Gynradd Mathematics in Education and Industry, Alison Hopper, Darlithydd mewn Addysg ym Mhrifysgol Sheffield, Dr Yinka Olusoga, cadeirydd y Gymdeithas Genedlaethol ar gyfer Addysgu Saesneg, Peter Thomas, Arweinydd Cwricwlwm Cynradd y Gymdeithas Ddaearyddol, Jon Cannell, a rheolwr gyfarwyddwr Family & Education ac iChild, Phil Bird.