Byddin yr Iachawdwriaeth
Estyn allan i helpu'r rhai sy'n cael eu gadael ar ôl
Eglwys ac elusen Gristnogol fyd-eang yw Byddin yr Iachawdwriaeth (yn Saesneg) (opens in a new tab) . Mae gwybodaeth o'r cyfrifiad yn helpu'r elusen i gefnogi pobl sydd mewn angen ledled Cymru a Lloegr, a chyrraedd y rhai y mae cymdeithas wedi eu gadael ar ôl.
Mae'r elusen yn cefnogi pobl ni waeth beth yw eu cefndir ethnig, crefydd, rhywedd neu gyfeiriadedd rhywiol. Mae 750 o eglwysi yn y Deyrnas Unedig sy'n cynnig help i bobl ddigartref, pobl sy'n gaeth i gyffuriau neu alcohol a phobl ddi-waith, yn ogystal â dioddefwyr caethwasiaeth fodern.
Mae Byddin yr Iachawdwriaeth yn defnyddio gwybodaeth o'r cyfrifiad i benderfynu sut a ble y mae'n cynnig ei gwasanaethau. Mae'r elusen yn creu proffiliau demograffig. Mae'r eglwysi'n defnyddio'r rhain, ynghyd â gwybodaeth leol, er mwyn helpu i ddeall anghenion y bobl yn eu cymunedau a rhoi'r cymorth gorau y gallant.
Mae'r proffiliau hefyd yn helpu Byddin yr Iachawdwriaeth i benderfynu ar feysydd newydd lle y gallant gynnig cymorth ledled Cymru a Lloegr o bosibl. Hefyd, gallant ddarparu tystiolaeth bwysig mewn cynigion am gyllid.
Dywedodd yr Uwchgapten Pam Knuckey, Cyfarwyddwr Cynorthwyol (Ymchwil), Ymchwil a Datblygu ar gyfer Byddin yr Iachawdwriaeth: “Rydym ni'n gweld bod y data rydym yn eu cael o'r cyfrifiad yn ein helpu ni i sicrhau ein bod yn cyrraedd y bobl y mae wir angen ein help arnyn nhw a'r lleoedd gorau i osod ein hadnoddau. Byddem ni'n annog pawb i lenwi Cyfrifiad 2021 mor gywir â phosibl er mwyn rhoi darlun cywir o'r hyn sydd ei angen ar eich cymuned a'n helpu i barhau â'n brwydr dros gyfiawnder cymdeithasol gwell.”