Sefydliad Datblygu Kashmiraidd
Gweithiodd y Sefydliad Datblygu Kashmiraidd gyda'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) i annog rhagor o bobl Kashmiraidd i gymryd rhan yng Nghyfrifiad 2021.
Roeddem am sicrhau mai Cyfrifiad 2021 oedd y cyfrifiad mwyaf cynhwysol eto. Er mwyn sicrhau bod hyn yn digwydd, buom yn gweithio gyda chynrychiolwyr o sefydliadau o bob rhan o Gymru a Lloegr. Roedd partneriaethau fel y rhain yn bwysig i godi ymwybyddiaeth o'r cyfrifiad.
Un o'r sefydliadau hyn oedd y Sefydliad Datblygu Kashmiraidd. Nod y sefydliad hwn yw cefnogi aelodau o'r gymuned Kashmiraidd sy'n byw ac yn gweithio yn y Deyrnas Unedig.
Ymgyrch Hunaniaeth Kashmiriaidd Prydeinig
Cydlynodd Sardar Aftab Khan o'r Sefydliad yr Ymgyrch Hunaniaeth Kashmiraidd Prydeinig er mwyn annog pobl Kashmiraidd i gymryd rhan yng Nghyfrifiad 2021. Dywedodd wrthym pam oedd yr ymgyrch hon mor bwysig.
“Mae data'r cyfrifiad yn ffynhonnell wybodaeth hanfodol i Lywodraeth Prydain a chynghorau lleol glustnodi cyllidebau ac adnoddau i feysydd gwahanol yn seiliedig ar y gyfran o'r boblogaeth. Bydd cynghorau lleol yn edrych ar ddata o 2011 a 2021 ac yn gweld sut maent wedi newid. Byddant yn defnyddio'r wybodaeth hon i gynllunio a darparu gwasanaethau sy'n diwallu anghenion ein cymuned. Er mwyn cynllunio ymlaen llaw, mae angen i chi wybod faint o bobl sydd yn eich cymuned a beth yw eu hanghenion. Mae'n anodd dadlau o blaid cael rhagor o wasanaethau os ydych chi ar goll o'r data. A dyna yw'r her fwyaf i'r Gymuned Kashmiraidd.”
Pwysigrwydd y cyfrifiad i gymunedau lleol
Mae'r cyfrifiad yn darparu gwybodaeth hanfodol y gall llunwyr polisïau, busnesau, elusennau a sefydliadau llywodraeth leol eu defnyddio i helpu i gynllunio gwasanaethau sydd o bwys i bawb. Mae cael data cywir o'r cyfrifiad yn hanfodol i ddarparu gwasanaethau iechyd, canolfannau iaith a gofal cymdeithasol i oedolion. Mae hefyd yn ychwanegu at ddealltwriaeth o gyflawniadau addysgol o'r ysgol gynradd hyd at lefel TGAU.
“Ni fyddwch chi'n gwybod pwy yw eich cwsmeriaid os na chaiff y pethau hynny eu nodi,” meddai cydweithiwr Aftab, Adeel Khan. “Unwaith y bydd prosiectau yn dechrau, caiff ymgyngoriadau cyhoeddus eu cynnal ac, yn sydyn, rydych chi'n darganfod nad yw 100,000 o bobl, sydd â gofynion hollol wahanol, wedi cael eu hystyried. Dyna pam mae anghydraddoldebau i gymunedau fel ein cymuned ni.”
Creu darlun o’r gymuned Kashmiraidd
Mae'r Ymgyrch Hunaniaeth Kashmiraidd Prydeinig bellach yn obeithiol y bydd Cyfrifiad 2021 yn darparu data defnyddiol ac yn rhoi darlun gwell o'r gymuned Kashmiraidd ledled Cymru a Lloegr.
“Gwnaethom hynny yn ystod y pandemig a bu'n rhaid i ni addasu,” meddai Adeel. “O'n profiad ni, nid oedd cyfarfodydd wyneb yn wyneb mewn lleoliadau fel mosgiau, clybiau cinio, digwyddiadau chwaraeon a digwyddiadau diwylliannol yn digwydd. Nid oeddem yn gallu gwneud hynny. Ond gwnaethom ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol. Yn hytrach na chrwydro o le i le a chwrdd ag ychydig o bobl, roeddem yn gallu targedu pobl a grwpiau, a sicrhau bod ein neges yn cyrraedd y gynulleidfa gywir. Roeddem yn gallu ystyried y sefyllfa mewn ffordd llawer mwy strategol. Roedd yn rhaid i ni gynnal yr ymgyrch mewn ffordd wahanol.”
A gwnaethant eu gorau glas i sicrhau nad oeddent yn colli neb.
“Roedd popeth ar lein oherwydd y pandemig, a gweithiodd hyn i ni,” meddai Adeel. “Ond i'r rhai hynny nad oeddem yn gallu eu cyrraedd, pobl oedrannus nad oeddent mor gyfarwydd â thechnoleg efallai, gwnaethom bethau fel dosbarthu taflenni mewn mosgiau.”
Defnyddio print a chyfryngau digidol
Creodd y Sefydliad wefan ar gyfer yr ymgyrch (yn Saesneg) (opens in a new tab) a thudalennau cyfryngau cymdeithasol ar Facebook, Twitter, Instagram a TikTok. Targedodd yr Ymgyrch bostiadau ar y cyfryngau cymdeithasol a oedd yn cyrraedd degau ar filoedd o bobl yn Lloegr. Un o'r rhain oedd postiad feirol ar TikTok a gyrhaeddodd dros 90,000 o bobl, a oedd yn cynnwys neges gan aelod 92 oed o'r gymuned Kashmiraidd yn Rochdale, Mrs Sarwar Jan.
Creodd y Sefydliad Datblygu Kashmiraidd 136 o gynhyrchion, o daflenni a phostiadau ar y cyfryngau cymdeithasol i adnoddau fideo. Ymddangosodd eu neges ar hysbysebion radio ledled y wlad yn ogystal â thros 30 o hysbysebion teledu.
“Gwnaethom ddefnyddio'r hyn a gawsom gan SYG,” meddai Adeel. “Cafodd yr enw Kashmiraidd ei gynnwys yn y cyfleuster chwilio wrth deipio yn y cyfrifiad ar-lein. Gwnaethom ddefnyddio hynny mewn modd strategol i roi gwybod i bobl y byddai'n haws llenwi'r ffurflen. Roeddech chi'n teipio KAS ac roedd y gwymplen yn eich galluogi i ddewis hunaniaeth Kashmiraidd y ffordd honno. Dyna oedd un o'r pethau mwyaf calonogol i ni.”
Codi ymwybyddiaeth ac ymgysylltu â chymunedau
Gan weithio gyda'r Ymgyrch Hunaniaeth Kashmiraidd Prydeinig, gwnaethom helpu i gyrraedd mwy o bobl a sicrhau bod yr ymgyrch yn llwyddiannus. Gwnaeth dros 60 o wirfoddolwyr, arweinwyr cymunedol, gweithwyr proffesiynol a rhwydwaith o grwpiau cymunedol lleol gefnogi'r ymgyrch i godi ymwybyddiaeth a chymryd rhan yn y cyfrifiad.
Yn SYG, rydym yn adeiladu ar y gwaith pwysig hwn. Ers i broses gasglu'r cyfrifiad ddod i ben, rydym wedi parhau i gysylltu a meithrin cydberthnasau â chynrychiolwyr o grwpiau a all ymgysylltu llai â data ac ystadegau. Rydym wedi cadw mewn cysylltiad â'r Sefydliad Datblygu Kashmiraidd, gan ymgysylltu â'i gynrychiolwyr ynghylch allbynnau'r cyfrifiad a gwaith arall SYG. Bydd hyn yn golygu y gall pawb ddefnyddio a deall yr ystadegau y gwnaethant helpu i'w creu.