Ymateb COVID-19 y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG)
Mae staff SYG o’r Is-adran Dadansoddi Iechyd a Digwyddiadau Bywyd yn esbonio pa mor bwysig yw data’r cyfrifiad yn ein hymateb i bandemig y coronafeirws (COVID-19).
Buom yn siarad â Jonny Tinsley, Pennaeth Data, a Dr. Vahé Nafilyan, Pennaeth Dadansoddiad Trawsbynciol yn yr Is-adran Dadansoddi Iechyd a Digwyddiadau Bywyd yn y SYG. Maent yn disgrifio sut y gwnaethant ddefnyddio data’r cyfrifiad, ynghyd â data marwolaethau, i ddatgelu anghydraddoldebau rhwng gwahanol grwpiau mewn marwolaethau COVID-19.
Maent yn esbonio sut y gwnaethant ddefnyddio data Cyfrifiad 2011 i greu ystadegau marwolaethau, y gwnaethant eu cysylltu â data cofrestru marwolaethau. Roedd hyn yn galluogi iddynt ddod i wybod am ffactorau fel ethnigrwydd a chrefydd mewn perthynas â chyfraddau marwolaethau COVID-19.
Byddant yn bwriadu defnyddio data Cyfrifiad 2021 i barhau i fonitro’r effaith y mae’r pandemig wedi’i chael ar fywydau pobl.
Trawsgrifiad o fideo stori cyfrifiad ymateb COVID-19 y SYG (yn Saesneg).