Trawsgrifiad o fideo cyflwyniad crynodebau pwnc Cyfrifiad 2021
Cerdyn teitl:
Beth allwch chi ei ddysgu o Gyfrifiad 2021?
Shamela Pepper-Grainger, Swyddog Ymchwil:
Mae'r cyfrifiad yn rhoi darlun i ni o'r holl bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr. Unwaith y byddwn wedi dadansoddi data'r cyfrifiad y gwnaethoch eu darparu i ni, byddwn yn cyhoeddi'r canlyniadau er mwyn i chi gael gwybod mwy am bobl fel chi, a'r cymunedau rydych chi'n byw ynddynt.
Heledd Jones, Dadansoddydd Cynhyrchu Ystadegau:
Ym mis Mehefin 2022, gwnaethom gyhoeddi canlyniadau cyntaf Cyfrifiad 2021. Rhoddodd y canlyniadau hyn amcangyfrif ar nifer y bobl a'r cartrefi yng Nghymru a Lloegr, yn ôl rhyw ac oedran.
Shamela Pepper-Grainger, Swyddog Ymchwil:
Nawr rydym yn cyhoeddi setiau manylach o ganlyniadau, y mae'r rhan fwyaf ohonynt ar gyfer nodwedd benodol unigolion neu gartrefi.
[Rhestr o grynodebau pwnc ar y sgrin]
Demograffeg a mudo
Cyn-filwyr lluoedd arfog y Deyrnas Unedig
Grŵp ethnig, hunaniaeth genedlaethol, iaith a chrefydd
Y Gymraeg
Y farchnad lafur a theithio i’r gwaith
Tai
Cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd
Addysg
Iechyd, anabledd a gofal di-dâl
Dr Tim Gibbs, Pennaeth Tîm Dadansoddi Gwasanaethau Cyhoeddus:
Er enghraifft, eu crefydd neu fath o gartref.
Heledd Jones, Dadansoddydd Cynhyrchu Ystadegau:
Rydyn ni'n galw'r canlyniadau hyn yn ‘grynodebau pwnc’.
Cerdyn teitl:
Sut gallwch chi ryngweithio â’r data?
Dr Tim Gibbs, Pennaeth Tîm Dadansoddi Gwasanaethau Cyhoeddus:
Bydd crynodebau pwnc Cyfrifiad 2021 yn cynnwys ystod enfawr o wybodaeth ryfeddol am eich cymuned leol.
Shamela Pepper-Grainger, Swyddog Ymchwil:
Ar gyfer Cyfrifiad 2021, rydym wedi creu ffyrdd newydd a chyffrous i chi ryngweithio â'r data o bob crynodeb pwnc.
Cerdyn teitl:
Map y cyfrifiad*
*Ar gael yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd
Heledd Jones, Dadansoddydd Cynhyrchu Ystadegau:
Adnodd rhyngweithiol newydd yw Map y cyfrifiad sy'n eich galluogi i gymharu data'r cyfrifiad yn gyflym ar gyfer rhanbarthau gwahanol ym mhob rhan o Gymru a Lloegr.
[Animeiddiad o “Map y cyfrifiad” ar y sgrin]
Shamela Pepper-Grainger, Swyddog Ymchwil:
Gallwch gymryd golwg ar sut fywydau sydd gan bobl lle rydych chi'n byw, fel ble mae mwy o bobl yn iach, neu ble mae pobl yn fwyaf tebygol o berchen ar eu cartref eu hunain.
Dr Tim Gibbs, Pennaeth Tîm Dadansoddi Gwasanaethau Cyhoeddus:
Gallwch chi hefyd weld pa ardaloedd sydd â'r mwyaf o gartrefi sy'n defnyddio ynni adnewyddadwy i wresogi!
Cerdyn teitl:
Cwis y cyfrifiad*
*Ar gael yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd
Heledd Jones, Dadansoddydd Cynhyrchu Ystadegau:
Ydych chi'n adnabod eich ardal leol? Profwch eich gwybodaeth gyda chwis Cyfrifiad 2021 i weld sut mae eich ardal chi yn cymharu â gweddill Cymru a Lloegr.
[Animeiddiad o “Cwis y cyfrifiad” ar y sgrin]
Dr Tim Gibbs, Pennaeth Tîm Dadansoddi Gwasanaethau Cyhoeddus:
Ers 2011, mae pob un ohonom wedi gweld newidiadau sydd wedi cael effaith ar y ffordd rydym yn gweithio ac yn byw.
Cerdyn teitl:
Adroddiadau newid dros amser*
*Ar gael yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd
Shamela Pepper-Grainger, Swyddog Ymchwil:
Drwy ganlyniadau Cyfrifiad 2021, gallwch gael gwybod mwy gyda'n ‘Hadroddiadau newid dros amser’ – dewiswch eich awdurdod lleol yng Nghymru a Lloegr a byddwn yn dangos y newidiadau mwyaf diddorol yn ystod y 10 mlynedd diwethaf yn awtomatig i chi.
[Animeiddiad o “Adroddiadau newid dros amser” ar y sgrin]
Heledd Jones, Dadansoddydd Cynhyrchu Ystadegau:
Bydd yr ‘Adroddiadau newid dros amser’ yn cael eu diweddaru ar ôl i ni gyhoeddi'r holl grynodebau pwnc. A pheidiwch ag anghofio, ailedrych ar y map a'r cwis rhyngweithiol, gan y byddwn yn ychwanegu mwy o ddata wrth i'r crynodebau pwnc gwahanol ddod ar gael.
Cerdyn teitl:
Beth sy’n digwydd ar ôl i’r crynodebau pwnc gael eu cyhoeddi?
Shamela Pepper-Grainger, Swyddog Ymchwil:
Ar ôl y crynodebau pwnc, bydd hyd yn oed mwy o ganlyniadau Cyfrifiad 2021 i ddod. Byddwn yn cyhoeddi cyfuniadau o ddata a dadansoddiadau manylach.
Heledd Jones, Dadansoddydd Cynhyrchu Ystadegau:
Gallwch ddysgu mwy o wybodaeth am y rhain ac adnoddau eraill ar wefan y cyfrifiad.
Shamela Pepper-Grainger, Swyddog Ymchwil gyda cherdyn diwedd:
Cyfrifiad 2021.
‘Dyw hi erioed wedi bod yn haws i ddysgu am eich cymuned.