Trawsgrifiad o fideo tai crynodebau pwnc Cyfrifiad 2021
Cerdyn teitl:
Crynodebau pwnc
Tai
Shamela Pepper-Grainger, Swyddog Ymchwil:
Mae crynodeb pwnc tai Cyfrifiad 2021 yn cynnwys tri bwletin, sy'n rhoi gwybodaeth am nodweddion tai, sefydliadau cymunedol, a phobl ag ail gyfeiriad yng Nghymru a Lloegr.
Mae hyn yn rhoi gwybodaeth i ni am gartrefi, fel y math o gartref y mae pobl yn byw ynddynt, nifer y bobl sy'n byw mewn sefydliadau cymunedol a nodweddion y bobl hynny, a data am bobl sydd ag ail gyfeiriad yn y Deyrnas Unedig a'r tu allan iddi.
Cerdyn teitl:
Tai, Cymru a Lloegr
Cerys Evans, Cynghorydd ar Bolisi’r Iaith Gymraeg:
Mae data'r cyfrifiad yn rhoi ffynhonnell unigryw o wybodaeth i ni am nifer yr aelwydydd yng Nghymru a Lloegr.
[Animeiddiad sy’n dangos y cynnydd mewn cartrefi o 2011 i 2021, ar y sgrin]
1.4 miliwn mwy o gartrefi ers 2011
Cerys Evans, Cynghorydd ar Bolisi’r Iaith Gymraeg:
Ers 2011, gallwn weld cynnydd o fwy nag 1.4 miliwn o gartrefi dros y cyfnod o 10 mlynedd hyd at 2021, ac mae nifer yr aelwydydd sy'n byw mewn fflat neu maisonette wedi cynyddu fwy nag unrhyw fath arall o gartref.
Gall hyn ddangos bod cynnydd yn nifer y fflatiau a maisonettes a adeiladwyd dros y 10 mlynedd diwethaf. Fodd bynnag, dim ond ychydig dros 1 o bob 5 aelwyd oedd yn byw yn y math hwn o le yn 2021, sydd dal yn sylweddol is na'r rheini sy'n byw mewn tai.
Shamela Pepper-Grainger, Swyddog Ymchwil:
Tuedd ddiddorol arall oedd gostyngiad bach yn nifer yr aelwydydd a oedd yn berchen ar eu cartref, gyda thros 20% o aelwydydd yn rhentu'n breifat yng Nghymru a Lloegr. Yn Llundain, lle mae prisiau cyfartalog tai uchaf, cynyddodd hyn i 30%.
Mae'r duedd hon yn cyd-fynd â'r cynnydd ym mhrisiau tai ac, yn ei dro, y cynnydd yn y blaendal sydd ei angen i brynu tŷ.
Cerdyn teitl:
Sefydliadau cymunedol
Cerys Evans, Cynghorydd ar Bolisi’r Iaith Gymraeg:
Sefydliad a gaiff ei oruchwylio drwy’r amser neu am ran o’r amser sy'n darparu llety preswyl yw sefydliad cymunedol, fel ysgolion preswyl a phrifysgolion, canolfannau'r lluoedd arfog, ysbytai, cartrefi gofal a charchardai.
[Animeiddiad sy’n dangos enghreifftiau o sefydliad cymunedol, ar y sgrin]
Ysgolion preswyl
Prifysgolion
Canolfannau’r lluoedd arfog
Ysbytai
Cartrefi gofal
Carchardai
Shamela Pepper-Grainger, Swyddog Ymchwil:
O ganlyniadau Cyfrifiad 2021, gallwn weld bod ychydig dan 2% o bobl yn byw mewn sefydliadau cymunedol, ac roedd tua hanner o'r rheini yn byw mewn sefydliadau addysgol. Nid yw'n syndod mai'r categori hwn sydd wedi cynyddu fwyaf dros y 10 mlynedd diwethaf, oherwydd y cynnydd yn nifer y myfyrwyr prifysgol yng Nghymru a Lloegr.
Wrth edrych ar oedran preswylwyr mewn sefydliadau cymunedol, roedd 3 allan o 5 rhwng 16 a 24 oed, neu'n 85 oed a throsodd. Mae'n debygol bod y grwpiau hyn yn cynnwys y rheini sy'n byw mewn sefydliadau addysg neu gartrefi gofal yn bennaf.
Cerys Evans, Cynghorydd ar Bolisi’r Iaith Gymraeg:
Yn ddiddorol, wrth edrych ar y rhai a oedd yn 85 oed a throsodd, menywod oedd bron 4 o bob 5 preswylydd. Mae'n bosibl bod hyn i'w ddisgwyl oherwydd bod disgwyliad oes menywod yn uwch na dynion.
Cerdyn teitl:
Ail gyfeiriadau
Shamela Pepper-Grainger, Swyddog Ymchwil:
Dywedodd 1 o bob 20 o bobl eu bod yn aros mewn cyfeiriad arall am fwy na 30 diwrnod y flwyddyn.
[Animeiddiad sy’n dangos gwahanol fathau o ail gyfeiriadau, ar y sgrin]
Cartref rhiant neu warcheidwad arall
Cyfeiriad cartref myfyriwr
Cartref gwyliau
Shamela Pepper-Grainger, Swyddog Ymchwil:
Yr ail gyfeiriad mwyaf cyffredin oedd cartref rhiant neu warcheidwad arall neu gyfeiriad cartref myfyriwr, tra bo rhai eraill yn cael eu defnyddio fel cartref gwyliau.
Roedd y rhan fwyaf o'r ail gyfeiriadau hyn yn y Deyrnas Unedig, ond roedd rhai dramor. Rydym ni'n bwriadu llunio dadansoddiad manylach am leoliad ail gyfeiriadau a nodweddion yr eiddo hyn yn ddiweddarach yn 2023.
Cerdyn teitl:
Dadansoddiad pellach o’r data
Cerys Evans, Cynghorydd ar Bolisi’r Iaith Gymraeg:
Byddwn ni'n cyhoeddi canlyniadau tai manylach wrth i ni barhau i ddadansoddi data Cyfrifiad 2021. Byddwn ni'n ystyried sut mae tai yn amrywio rhwng maint cartrefi, ethnigrwydd, crefydd, a gweithgarwch economaidd, gan roi darlun manylach o'r tueddiadau tai ledled Cymru a Lloegr.
Shamela Pepper-Grainger, Swyddog Ymchwil, gyda cherdyn diwedd:
Cyfrifiad 2021.
Nid yw erioed wedi bod yn haws dysgu am eich cymuned.