Trawsgrifiad o'r animeiddiad Sut mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn defnyddio eich data cyfrifiad
Llefarydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol:
Caiff y cyfrifiad ei gynnal gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol unwaith bob 10 mlynedd, ac mae'n rhoi darlun i ni o'r holl bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr.
Mae'r ystadegau sy'n cael eu cynhyrchu o'r cyfrifiad a data eraill yn helpu'r llywodraeth, awdurdodau lleol, gwasanaethau iechyd a busnesau eraill i gynllunio gwasanaethau yn eich ardal chi.
Mae'r rhain yn cynnwys gofal iechyd, trafnidiaeth, tai, addysg a manwerthu.
Drwy lenwi holiadur y cyfrifiad, gwnaethoch chwarae eich rhan wrth greu darlun gwell o bob un ohonom.
Mae ein holl systemau, staff a chyflenwyr, a'n ffordd ni o wneud pethau, yn dilyn safonau caeth y llywodraeth, sy'n rhoi'r hyder i chi ymddiried ynom gyda'ch data.
Mae eich cyfrinachedd yn cael ei ddiogelu gan y gyfraith.
Mae hyn yn golygu na all eich data gael eu defnyddio gan y llywodraeth i effeithio ar bethau fel hawliadau budd-daliadau, cais preswylio, statws mewnfudo na threthi.
Unwaith y gwnaethoch gyflwyno eich ffurflen ar-lein neu'ch ffurflen bapur, gwnaethom ddefnyddio eich gwybodaeth, fel eich enw a'ch cyfeiriad, i wneud yn siwr mai dim ond unwaith y caiff pawb eu cyfrif.
Rydym yn gwneud yr holl wybodaeth yn ddienw cyn i ni gyhoeddi ystadegau, felly ni chaiff dim o'ch manylion personol eu rhyddhau.
Caiff eich cofnod yn y cyfrifiad ei gadw'n ddiogel am 100 mlynedd.
Mae'n bosibl y byddwn yn ategu'r cyfrifiad â gwybodaeth ddienw arall i greu delwedd fwy cyfoethog o'r boblogaeth.
Caiff y data hyn eu diogelu'n ofalus iawn, fel y caiff gwybodaeth y cyfrifiad ei diogelu.
Maent ond yn cael eu darparu i ni er mwyn cynhyrchu ystadegau.
Rydym i gyd yn defnyddio gwasanaethau cyhoeddus a lleol, p'un a yw hynny'n ymweliad â'r meddyg, mynd â'r plant i'r ysgol, teithio i'r gwaith neu brynu bwyd yn yr archfarchnad leol.
Drwy gymryd rhan, rydych wedi helpu sefydliadau i gynllunio'r gwasanaethau sydd eu hangen ar bob un ohonom.
Nawr ac yn y dyfodol.