Trawsgrifiad o'r fideo Yr amcangyfrif poblogaeth cyntaf ar gyfer Cymru
Shamela Pepper-Grainger, Swyddog Ymchwil, Swyddfa Ystadegau Gwladol:
Cyn y cyfrifiad diwethaf, fe wnaethom ni gystadleuaeth o’r enw ‘Gadewch i Ni Gyfrif!’. Cymerodd 2.2 miliwn o blant ran yn y gystadleuaeth i’w helpu nhw a’u rhieni i ddeall mwy am y cyfrifiad. Dwi yma heddiw yn Ysgol Gynradd Gymraeg Tonyrefail i helpu’r plant gyhoeddi poblogaeth Cymru sef eu gwobr am ennill y gystadleuaeth.
Llefarydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol:
Tair miliwn, cant a saith mil a phum cant.
[Mae’r plant yn rhoi hwrê]
Shamela Pepper-Grainger, Swyddog Ymchwil, Swyddfa Ystadegau Gwladol:
Mae’r cyfrifiad mor bwysig oherwydd mae pawb yn elwa o’r cyfrifiad. Mae’n helpu llywodraethau, cynghorau, busnesau ac elusennau i gynllunio ac ariannu gwasanaethau lleol a gwladol rydyn ni gyd yn ei ddefnyddio. Er enghraifft, mae’n ein helpu i gynllunio trafnidiaeth, gwasanaethau argyfwng, gwasanaethau meddygol a deintydd, a hefyd lleoedd ysgol.
Mae canlyniadau cyfrifiad heddiw yn dangos poblogaeth Cymru wrth ryw ac oedran ac o Hydref 2022, bydd mwy o wybodaeth ar wahanol bynciau yn cael eu rhyddhau dros y dau blynedd nesaf.