Ynglŷn â'r cyfrifiad : Trosolwg
Beth yw'r cyfrifiad?
Mae'r cyfrifiad yn digwydd bob 10 mlynedd ac mae'n rhoi darlun i ni o'r holl bobl a chartrefi yng Nghymru a Lloegr.
Mae eich atebion i gwestiynau cyfrifiad yn helpu sefydliadau i wneud penderfyniadau am gynllunio ac ariannu gwasanaethau cyhoeddus yn eich ardal, gan gynnwys trafnidiaeth, addysg a gofal iechyd.
Diwrnod y Cyfrifiad oedd Dydd Sul 21 Mawrth 2021.
Canlyniadau Cyfrifiad 2021
Gwnaethom gyhoeddi canlyniadau cyntaf y cyfrifiad ar gyfer Cymru a Lloegr ddydd Mawrth 28 Mehefin 2022.
Rydym ni wedi gweithio’n galed i brosesu’r atebion o holl holiaduron y cyfrifiad, gan gynnwys Arolwg Cwmpas y Cyfrifiad ac Arolwg Ansawdd y Cyfrifiad. Gwnaethom hefyd gynnal ymgynghoriad allbynnau sy’n helpu i wneud yn siŵr bod ystadegau Cyfrifiad 2021 yn diwallu anghenion y rhai sy’n eu defnyddio.
Mae’r fideo hwn yn edrych ar sut y gwnaethom gasglu gwybodaeth cyfrifiad a’r canlyniadau cyntaf a wnaethom yn eu cyhoeddi ym mis Mehefin.
Trawsgrifiad o fideo "Creu Cyfrifiad 2021, o'r broses gasglu i'r canlyniadau".
Y cyfrifiad yng Ngogledd Iwerddon a'r Alban
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) sy'n cynnal y cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr.
Os ydych chi'n byw yng Ngogledd Iwerddon, ewch i wefan cyfrifiad Asiantaeth Ystadegau Gogledd Iwerddon (yn Saesneg) (opens in a new tab) i wybod mwy am y cyfrifiad yng Ngogledd Iwerddon.
Os ydych chi'n byw yn yr Alban, ewch i wefan cyfrifiad Cofnodion Cenedlaethol yr Alban (yn Saesneg) (opens in a new tab) i gael gwybod sut i gymryd rhan yn y cyfrifiad ar gyfer yr Alban.
Y cyfrifiad blaenorol
Cafodd y cyfrifiad blaenorol ei gynnal yn 2011. Defnyddiodd llawer o bobl a sefydliadau wybodaeth o Gyfrifiad 2011 mewn amrywiaeth o ffyrdd.
Er enghraifft, gwnaeth Cyngor Dinas Bryste ei defnyddio i lywio penderfyniadau am sut i ariannu gwelliannau tai lleol. Roedd hefyd yn hanfodol er mwyn i elusen Redbridge Council for Voluntary Services helpu pobl o grwpiau lleiafrifoedd ethnig i ddysgu mwy am ddementia.
I ddarllen mwy am y buddiannau y gwnaeth gwybodaeth o Gyfrifiad 2011 helpu i'w creu, ewch i wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (yn Saesneg) (opens in a new tab) .